Pontio i’r
Brifysgol

Photo by Jakob Rosen on Unsplash

Gall cyfnodau pontio fod yn anodd, ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn symud allan o ofal ar yr un pryd â phontio i'r brifysgol. Rydym wedi llunio cyngor amrywiol a all eich helpu drwy'r cyfnod hwn.

Cyfri'r dyddiau nes mynd i’r Brifysgol

Mae cadw rheolaeth ar bopeth sydd angen i chi ei wneud cyn dechrau yn y brifysgol yn gallu bod yn llethol. Rydym wedi llunio'r canllaw hwn: Cyfri'r dyddiau nes mynd i’r Brifysgol i'ch rhoi chi ar ben ffordd.

Opsiynau blwyddyn allan

Os ydych chi'n mynd yn syth o'r ysgol neu'r coleg i'r brifysgol, efallai yr hoffech chi feddwl am gael blwyddyn allan. Mae blwyddyn allan yn aml yn cael ei galw’n 'flwyddyn i ffwrdd/gap year', ac mae pobl yn aml yn meddwl amdani fel rhywbeth sydd ond yn bosibl os oes gennych lawer o gymorth ariannol. Ond mae digon o resymau pam gallech chi gymryd seibiant rhwng gorffen yn yr ysgol neu'r coleg a dechrau yn y brifysgol:

  • Gweithio ac ennill arian
  • Gwneud unrhyw gyrsiau ychwanegol y gallai fod eu hangen arnoch i ddechrau eich gradd
  • Teithio neu weithio dramor lle mae cyllid ar gael

Mae rhestr o ddolenni yma a all roi syniad i chi o’r gefnogaeth bosibl i chi wrth gymryd blwyddyn allan.

A young black man is walking outdoors, wearing a denim jacket over a brightly-coloured shirt. He is listening to something on headphones and smiling.
Photo by Yingchou Han – Unsplash

Newid cynlluniau

mynd yn syth o'r ysgol neu'r coleg, efallai na fyddwch chi’n cael y canlyniadau oedd eu hangen arnoch. Mae sefyllfaoedd personol, teuluol neu fyw yn gallu newid, sy'n golygu bod angen rhagor o amser arnoch i wneud penderfyniadau neu fod angen i'ch penderfyniadau fod yn wahanol. Neu, efallai y byddwch chi'n newid eich meddwl am y cwrs neu'r brifysgol lle rydych chi i fod i ddechrau. Beth bynnag yw'r sefyllfa, mae pobl a all eich helpu i weithio allan beth i'w wneud nesaf.

Photo by Aedrian on Unsplash

Canlyniadau Arholiadau a Chlirio

Os oes gennych gynnig amodol i brifysgol, ond nad ydych chi’n cael y canlyniadau sydd eu hangen arnoch i fodloni'r cynnig hwn, dylech chi gysylltu â'ch prifysgol dewis cyntaf ar unwaith. Mewn rhai achosion, efallai y bydd prifysgolion yn gallu eich derbyn hyd yn oed os nad ydych chi’n bodloni'r graddau, ac os nad ydyn nhw’n gallu, efallai y bydd ganddyn nhw gyrsiau tebyg y gallan nhw eu cynnig i chi yn lle hynny. Yn aml, bydd gan brifysgolion gyswllt dynodedig y gallwch ei ffonio, sy'n gwybod am brofiad o ofal ac a fydd yn gwybod a oes gennych chi hawl i unrhyw gymorth ychwanegol. Bydd gan bob prifysgol fanylion ar-lein am ba rai o'u cyrsiau sydd ar gael drwy'r broses glirio. Gallech chi ddod o hyd i opsiynau cwrs ar eich cyfer os nad ydych wedi bodloni eich cynnig gwreiddiol.

Gohirio Mynediad

Os yw eich amgylchiadau wedi newid, efallai y byddai gohirio mynediad a dechrau eich cwrs y flwyddyn ganlynol yn well i chi. Efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser, ond bydd cyswllt dynodedig eich prifysgol ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yn gallu eich arwain drwy eich opsiynau neu eich rhoi mewn cysylltiad â'r bobl gywir yn y brifysgol.

Newid cwrs neu brifysgol, neu wrthod cynigion

Nid yw'r ffaith eich bod wedi penderfynu ar gwrs neu brifysgol benodol yn golygu na allwch chi newid eich meddwl. Yn debyg iawn i ohirio mynediad, y peth gorau y gallwch ei wneud os ydych chi’n ystyried newid eich meddwl ynghylch ble i fynd neu beth i'w astudio yw siarad â'ch cyswllt dynodedig.

Rhestrau gwirio

Ac yn olaf, ychydig cyn dechrau ar eich cwrs, dyma rai rhestrau gwirio defnyddiol i sicrhau eich bod chi’n barod am unrhyw beth! Rhestrau gwirio to make sure you’re ready for anything!

  • Dogfennau pwysig (fel llythyrau derbyn, unrhyw gadarnhad y gofynnwyd i chi ei ddangos am eich statws gofal)
  • Cysuron cartref (eich hoff flanced? Tegan o’ch plentyndod? Beth bynnag sy'n gwneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus, dewch ag ef gyda chi)
  • Dillad
  • Cynhyrchion ymolchi
  • Eitemau trydanol
  • Dillad gwely
  • Eitemau cegin
  • Rhestrau cyswllt
  • Eitemau penodol ar gyfer eich cwrs

Edrychwch ar Save the Student  am restrau manylach

Back to top