Astudio yn
y Brifysgol

Rydych chi wedi cyrraedd y brifysgol!

Llongyfarchiadau!

Gall bywyd fel myfyriwr fod yn wych, ond hefyd, gall fod yn anodd. Rydym wedi llunio awgrymiadau defnyddiol a dolenni at adnoddau a all eich helpu wrth i chi wneud eich ffordd drwy eich cwrs prifysgol.

Darlun gan Frank Duffy

Bywyd Myfyrwyr

Mae cyrraedd y brifysgol yn gamp, ond beth am nawr, a chithau yma? P'un a ydych chi’n dewis siarad ag unrhyw aelodau o staff neu fyfyrwyr ynghylch y ffaith bod gennych chi brofiad o ofal ai peidio, mae rhai meysydd o fywyd myfyrwyr lle gall fod yn syniad da i chi wybod pa gymorth sydd ar gael i chi.

O fentora a chynlluniau cyfeillio (naill ai gyda myfyrwyr eraill sydd â phrofiad o ofal neu'n fwy cyffredinol), i gyfleoedd gwaith a theithio, i helpu i ddod o hyd i lety, Gall ein taflen wybodaeth a'r dolenni hyn eich helpu.

Gofalu amdanoch chi eich hun

Y tu hwnt i'r gefnogaeth a'r cyfleoedd mwy penodol sydd wedi’u rhestru yn Bywyd Myfyrwyr, bydd eich prifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth i'w holl fyfyrwyr. Mae'n syniad da i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod ble i ddod o hyd i help gyda...

  • Sgiliau astudio
  • Rheoli amser
  • Hunanofal
  • Byw’n annibynnol
  • Cymorth ehangach
  • Beth i'w wneud yn ystod y gwyliau

Mae hyn a mwy yn yr adran dolenni .

Back to top