Cyn y
Brifysgol
“Mae’r gefnogaeth a gefais wedi bod yn drawsnewidiol”
Y cam cyntaf un.
P'un a ydych chi yn yr ysgol neu'r coleg ar hyn o bryd, neu os ydych chi allan o addysg ond yn meddwl am ddychwelyd, y cam cyntaf i addysg uwch yw “pam byddwn i hyd yn oed yn meddwl am fynd i'r brifysgol?” Yma fe welwch chi rai o'r atebion i'r cwestiwn hwn, yn ogystal â rhai awgrymiadau o ran pwy gallech siarad â nhw i gael cyngor.
Pam ystyried mynd i’r brifysgol
Mae llawer iawn o resymau dros ystyried astudio yn y brifysgol. Mae rhai yn eithaf cyffredinol ac yn berthnasol i bawb (gall agor y drws i ystod ehangach o gyfleoedd, ac ar gyfartaledd mae graddedigion prifysgol yn ennill mwy o arian ar hyd eu hoes); mae rhai yn benodol i'r swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi (mae angen cymwysterau penodol ar gyfer swyddi mewn meddygaeth, y gyfraith neu newyddiaduraeth, fel arfer o’r brifysgol); a gallai rhai fod yn fwy penodol i'ch profiadau eich hun (gall aros mewn addysg roi mynediad tymor hirach i chi at gymorth drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, mae cymhellion ariannol drwy grantiau a bwrsariaethau).
Y peth pwysig yw, os yw'n rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud, a'ch bod yn barod i weithio i’w gael, gall y brifysgol fod yn lle i chi, yn sicr. Efallai y byddwch chi'n wynebu heriau gwahanol i'r rhai y mae myfyriwr 'cyffredin' yn eu gweld, neu efallai eich bod chi'n dod i astudio ar gam diweddarach na'ch cyfoedion, ond mae digon o gymorth os oes ei angen arnoch chi.
Darlun gan Frank Duffy
 phwy y dylech chi siarad?
Gwnewch ymholiadau
Holi o gwmpas yw’r ffordd orau ichi gael syniad ai astudio yn y brifysgol yw'r dewis iawn i chi. Efallai fod gennych frodyr a chwiorydd, gofalwyr maeth neu deulu sydd wedi bod i'r brifysgol ac sy’n gallu rhoi cyngor i chi, efallai nad oes. Ond mae digon o bobl sy'n gallu trafod y peth â chi, p’un a ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi bod i’r brifysgol ei hun ai peidio.
Rhagor o Wybodaeth
Lawrlwythwch ein taflen wybodaeth i weld rhai o'r ffynonellau cyngor allweddol.