Ar ôl y Brifysgol
Beth sy’n dod nesaf?
Pa gyngor cyffredinol sydd ar gael a beth sydd wedi'i deilwra'n fwy penodol i mi ac i'm sefyllfa? Fe welwch chi rai o'r atebion yma.
Photo by Clayton Cardinalli on Unsplash
Graddio
Mae’r seremoni graddio’n amser i ddathlu, ond hefyd, gall achosi pryder. Sut rydw i'n mynd i dalu am wisg graddio? Ble rydw i'n mynd i aros os nad ydw i'n byw'n lleol mwyach? Pwy rydw i'n mynd i'w wahodd? Mae’n debygol y bydd eich prifysgol yn gallu eich cefnogi gyda'r materion hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â'ch cyswllt dynodedig os bydd mynd i’r seremoni graddio yn anodd i chi; efallai y gall gynnig cymorth ariannol neu fathau eraill o gymorth i sicrhau eich bod chi’n cael y cyfle i raddio ochr yn ochr â'ch cydfyfyrwyr.
Swyddi
Gobeithio i chi fod mewn cysylltiad â'ch gwasanaeth gyrfaoedd ar ryw adeg wrth i chi astudio, ond rydym i gyd yn gwybod nad yw hyn yn digwydd bob amser! Ta waeth, bydd prifysgolion yn aml yn gallu cynnig cyngor gyrfaoedd, help gydag ysgrifennu CV a chymorth wrth chwilio am swydd am gyfnod ar ôl i chi orffen eich cwrs. Siaradwch â'ch gwasanaeth gyrfaoedd i gael gwybod beth y gallan nhw ei wneud drosoch chi.
Astudiaethau Pellach
Wnaethoch chi fwynhau astudio? Oes pwnc rydych chi eisiau mynd ar ei drywydd ymhellach? Efallai i chi benderfynu bod gyrfa benodol yn addas i chi a bod angen i chi wneud cwrs arall. Dyma rai o'r rhesymau pam gallech chi ystyried mynd ymlaen i wneud gradd Meistr, PhD neu gwrs proffesiynol. Mae prifysgolion yn tueddu i gynnal diwrnodau agored penodol ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac, yn yr un modd â diwrnodau agored israddedig, mae'n werth cysylltu i gael gwybod a ydyn nhw’n cynnig unrhyw sesiynau neu gyngor penodol i fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal. Fel sy’n wir am fyfyrwyr israddedig, mae gan brifysgolion ac awdurdodau lleol lefelau gwahanol o gymorth, ond mae bob amser yn werth holi i gael gwybod pa fath o gymorth ariannol neu gymorth arall y mae gennych hawl iddo.
Cymorth Cyffredinol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydyn nhw’n cael eu hateb yma ac os na allwch ddod o hyd i’r ateb drwy eich prifysgol neu awdurdod lleol, rydym yn argymell i chi gysylltu â Sefydliad Rees Mae Sefydliad Rees yn darparu cymorth gydol oes i bobl sydd â phrofiad o ofal, gan gynnwys cyngor cyffredinol, cymorth gyda thai, cymorth ariannol a mwy.
Mae Sefydliad Rees
Mae Sefydliad Rees yn deall pwysigrwydd cael rhwydwaith cymorth gydol oes. Eu nod yw helpu pobl sydd â phrofiad o ofal i ffynnu. Mae Sefydliad Rees yn cynnig cymorth a chyngor i unigolion sydd â phrofiad o ofal am unrhyw bryderon ac maen nhw bob amser yno i wrando. Maent yn cynnal nifer o brosiectau fydd, gyda lwc, yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl o bob oed sydd â phrofiad o ofal. Maent hefyd yn dathlu cyflawniadau personol a phroffesiynol y rhai sydd wedi cael profiad o fod o dan ofal, ni waeth pa mor fawr neu fach yw’r cyflawniadau o dan sylw.