Amdanom 
Croeso i wefan CLASS Cymru!
Croeso i wefan CLASS Cymru! Dechreuodd CLASS Cymru (Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal a Myfyrwyr Cymru) fel rhwydwaith o weithwyr proffesiynol ledled Cymru sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n gadael gofal, a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal ac wedi ymddieithrio yn eu teithiau addysgol at addysg uwch, yn cwrdd i rannu arfer da a gwella cymorth. Rhwng 2020 a 2022, bu ymchwilwyr o CASCADE (y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant ym Mhrifysgol Caerdydd) yn gweithio gyda phobl ifanc ac ymarferwyr ledled Cymru i ddarganfod pa gymorth oedd ar gael i fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru, a lle roedd diffyg cymorth. O ganlyniad, gwelsom, er bod cymorth ar gael yn aml ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru, nid oedd bob amser yn cael ei hyrwyddo'n dda neu'n benodol i sefyllfaoedd pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Bwriad gwefan CLASS Cymru yw cau'r bwlch hwn: cynnig cyngor clir a chryno a chyfeirio at ffynonellau cymorth a gwybodaeth berthnasol. Gan gwmpasu'r llinell amser gyfan o ystyried gradd prifysgol hyd at beth i'w wneud pan fyddwch yn graddio, mae'r adnodd dwyieithog hwn yn darparu siop un stop i bobl sydd â phrofiad o ofal a'r rhai sy'n eu cefnogi ar gyfer dod o hyd i'r wybodaeth allweddol sy'n angenrheidiol i symleiddio'r broses hon.
Darlun gan Frank Duffy
Ar gyfer pwy mae CLASS Cymru?
Mae'r wybodaeth ar y safle hwn wedi'i gynllunio ar gyfer:
Pobl sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru
Pobl sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru Pobl sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru o unrhyw oedran sy'n ystyried gwneud cais am brifysgol, neu sydd mewn prifysgol eisoes.
Mae gennych chi brofiad o ofal os:
- Rydych wedi treulio unrhyw gyfnod o amser yng ngofal awdurdod lleol fel plentyn. Gallai hyn fod gyda rhieni maeth neu mewn cartref preswyl i blant;
- Rydych wedi treulio amser mewn gofal teulu fel plentyn, er enghraifft byw gyda brodyr a chwiorydd hŷn neu daid a nain.
Fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
Mae rhywfaint o gyngor hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, sydd heb brofiad o ofal ond sydd heb gyswllt ystyrlon â'u teulu fel oedolion.
Gweithwyr proffesiynol
Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda neu'n cefnogi pobl sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol ac ymgynghorwyr personol, staff ysgolion a phrifysgol sy'n gyfrifol am fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal, a gofalwyr maeth.
Diolch
Rydym wedi gallu creu'r wefan hon diolch i'r canlynol: