Croeso i CLASS Cymru. Os ydych chi yng Nghymru, os ydych chi â phrofiad o ofal ac yn ystyried mynd i'r brifysgol, mae'r wefan hon yn addas i chi. Os ydych chi'n cefnogi rhywun sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru a allai fod eisiau mynd i'r brifysgol, mae croeso i chithau hefyd! Mae CLASS Cymru yn sefyll am Care Leavers Activities and Student Support, (Gweithgareddau i Bobl sy'n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr), ac mae'n cynnwys prifysgolion, colegau, gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau ledled Cymru sy'n cefnogi'r rhai sydd â phrofiad o ofal i fynd ymlaen i Addysg Bellach ac Uwch.
Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael am y daith i'r brifysgol. Bwriad y wefan hon yw rhoi awgrymiadau sy'n berthnasol i chi fel person â phrofiad o ofal (neu fel rhywun sy'n cefnogi rhai sydd â phrofiad o ofal), a hefyd eich cyfeirio at adnoddau defnyddiol eraill i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Pa bynnag gam rydych chi arno, boed hynny cyn y brifysgol ; gwneud ceisiadau; dilyn y broses o bontio i'r brifysgol; astudio yn y brifysgol neu weithio allan beth i'w wneud ar ôl y brifysgol, gallwch ddefnyddio’r cwymplenni uchod i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Hefyd, mae rhai taflenni gwybodaeth defnyddiol i’r gwahanol bobl a allai fod yn eich cefnogi ar yr ochr chwith.